We aim to make this site as accessible as possible and therefore have provided the settings below to use if you are finding it difficult to view this website. See the SFO Accessibility Statement for more information.

Where it is appropriate to provide a Welsh translation, you can switch to Cymraeg. See the Welsh Language Commissioner website for more information.

Use the settings button in the bottom right corner of the page to access these settings again.

We would like to use Analytics Cookies on our website. 

Turn these on below if you are happy with us collecting information on how our site is used, in order for us to improve the overall experience of our website. 

All other cookies are necessary and therefore by continuing to browse this website, you are agreeing to the usage of these cookies.

 See the SFO Privacy Policy for more information. 

Analytics Cookies

Gwybodaeth i Ddioddefwyr, Tystion a Chwythwyr Chwiban

KONICA MINOLTA DIGITAL CAMERA

Ydych chi’n dymuno adrodd twyll, llwgrwobrwyad neu lygru difrifol?

Canfyddwch y lle cywir i adrodd eich gwybodaeth neu godi’ch pryderon.

Dioddefwyr a thystion – Ein hymrwymiad i chi

Mae’r Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) yn ymchwilio ac erlyn yr haen uchaf o droseddau sy’n cynnwys twyll cymhleth, yn cynnwys llwgrwobrwyo a llygredigaeth. Wrth wneud hynny, rydym yn gwbl ymrwymedig i roi lle canolog i ddioddefwyr a thystion ym mhob achos.

At y pwrpas hwn, rydych wedi dioddef trosedd os ydych wedi dioddef niwed neu golled economaidd a achoswyd yn uniongyrchol gan drosedd yr ymchwilir iddi’n ffurfiol gan yr SFO. Gall dioddefwyr fod yn fusnesau yn ogystal ag unigolion.

Yn gyffredinol, rydych yn dyst os ydych yn gwybod rhywbeth, neu fod gennych wybodaeth sy’n berthnasol i achos yr SFO.

Isod rydym yn disgrifio’r safonau yr ydym yn eu gosod i ni’n hunain, ac yn egluro beth yw eu rhan yn y broses o ymchwilio ac erlyn twyll difrifol a chymhleth.

Ein Safonau – beth allwch ei ddisgwyl gennym

Mae’r SFO yn ymrwymedig i:

  • eich trin yn deg, gydag urddas a pharch drwy;
    • egluro’r broses o ymchwilio ac erlyn, a sut y gall effeithio arnoch chi,
    • eich rhoi mewn cysylltiad â staff yr SFO all ateb unrhyw gwestiwn allai fod gennych,
    • gyfathrebu gyda chi mewn modd priodol, yn cynnwys trefnu i gyfieithydd helpu ble fo angen,
    •  rhoi’r wybodaeth y byddwch angen ar sut a ble i gael cyngor a chefnogaeth yn cynnwys mynediad at wasanaethau cefnogaeth arbenigol, neu gyfeirio atoch yn uniongyrchol ble fo angen,
    • cadw’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni yn ddiogel, a’i rhoi i’r rhai sydd â hawl i’w derbyn yn unig, a
    • gwahodd adborth ar y gwasanaeth a ddarperir gennym ac anrhydeddu eich hawl i ofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad i derfynu ymchwiliad swyddogol neu erlyniad yn ei gyfanrwydd 
  • lleihau’r amharu a’r gost o fod yn dyst pan fo hynny’n bosibl drwy:
    • gynllunio ymlaen llaw er mwyn rhoi digon o rybudd i chi am ddigwyddiadau sy’n effeithio arnoch chi
    • ystyried beth sy’n gyfleus i chi wrth gynllunio a gwneud trefniadau,
    • ystyried beth sy’n gyfleus i chi wrth gynllunio a gwneud trefniadau,
    • eich helpu i hawlio treuliau y gellir eu had-dalu
    • eich hysbysu am ddatblygiadau arwyddocaol yn yr achos yn gyffredinol,
    • rhoi cefnogaeth i chi yn y llys os bydd gofyn i chi roi tystiolaeth, a
    • threfnu i chi gael eich gwarchod rhag dylanwad gormodol neu fygythiadau.

Os ydych yn ddioddefwr sydd wedi dioddef colled o ganlyniad uniongyrchol i’r ymddygiad troseddol, byddwn yn ceisio cael iawndal ariannol i chi pan fo’r gyfraith yn caniatáu hynny. Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef colled gadewch i ni wybod yn syth os gwelwch yn dda.

Yn ogystal â’r safonau gofal hyn, mae’r SFO wedi ei rwymo’n gyfreithiol gan y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau Hydref 2015 (Cod Dioddefwyr) ac mae hefyd yn ymroddedig i’r egwyddorion a sefydlwyd yn y Siarter Tystion.

Cymhwyso ein Safonau

Mae safonau gofal yr SFO a ddisgrifir uchod yn gymwys os ydych yn dyst gwirfoddol, neu ei bod yn ofynnol i chi roi cymorth gorfodol i ni o dan adran 2 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987.

Byddwn yn eu cymhwyso drwy gydol yr achos, a phryd bynnag y byddwn yn cyfathrebu â dioddefwyr a thystion. Maent yn sail i’n hymagwedd i’r gweithgareddau canlynol:

  • cael manylion personol perthnasol gennych chi,
  • eich cyfweld i weld pa dystiolaeth fyddech yn gallu ei rhoi,
  • eich helpu chi i droi eich tystiolaeth yn ddatganiad ysgrifenedig,
  • asesu unrhyw anghenion allai fod gennych fel tyst posibl,
  • eich hysbysu ar adegau priodol wrth i’r achos fynd yn ei flaen, ac ateb eich cwestiynau,
  • penderfynu a fydd angen i chi roi tystiolaeth yn y llys,
  • cynllunio yn ofalus ymlaen llaw er mwyn lleihau anghyfleustra a chost rhoi tystiolaeth yn y llys,
  • rhoi gwybod i chi ble a phryd y mae angen i chi fod, ac am faint o amser (er y gall yr amser a amcanir newid),
  • trefnu neu eich helpu i drefnu cludiant a llety,
  • rhoi cefnogaeth i chi yn y llys a’ch helpu i roi eich tystiolaeth orau yn y llys,
  • eich helpu i hawlio’n ôl eich treuliau rhesymol, a
  • gwahodd eich adborth, a gweithredu arno.

Yn aml mae’r gweithgareddau hyn yn gorgyffwrdd ac ar brydiau’n digwydd mewn trefn wahanol. Mae rhai yn cymryd rhai munudau ac eraill yn para drwy gydol cyfnod yr achos. Maent yn cael eu crynhoi isod, er mwyn dangos sut mae ein safonau yn gymwys drwyddi draw.

Cael eich manylion

Pan fo cyhuddiad o dwyll difrifol neu gymhleth yn cael ei wneud, gall yr SFO gysylltu â thystion posibl er mwyn canfod a fyddent yn gallu darparu gwybodaeth berthnasol.

Os bydd ymchwilydd SFO yn cysylltu â chi at y pwrpas hwn, bydd yn gofyn i chi am rai manylion personol, megis eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn, fel y byddwn yn gallu cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol yr achos. Bydd y manylion hyn yn cael eu cadw’n ddiogel, yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998. Os bydd unrhyw un o’r manylion hyn yn newid, gadewch i ni wybod ar unwaith os gwelwch yn dda.

Eich cyfweld

Os oes gennych wybodaeth berthnasol, rydych yn dyst posibl ac efallai bydd ymchwilydd yr SFO angen eich cyfweld. Mae yna wahanol fathau o gyfweliadau, yn cynnwys sgwrs gychwynnol dros y ffôn, ac mewn nifer o achosion gall ymchwilwyr eich gwahodd i’n swyddfeydd i gael eich cyfweld yn wirfoddol.

Mewn rhai sefyllfaoedd efallai y byddwn yn penderfynu eich cyfweld (neu’n ei gwneud yn ofynnol i chi ddarparu dogfennau i ni) o dan ddarpariaethau gorfodol adran 2 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987. Efallai y bydd hyn yn digwydd oherwydd eich bod chi wedi gofyn i ni wneud hynny. Os bydd angen i chi gael eich cyfweld o dan Adran 2 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987, byddwn yn anfon rhybudd ysgrifenedig ffurfiol atoch yn dweud hynny. Mae methu â chydymffurfio â’r gofyniad hwn heb esgus rhesymol yn drosedd. Mae ffugio, dinistrio neu waredu fel arall, neu achosi neu ganiatáu ffugio, cuddio, dinistrio neu waredu dogfennau yr ydych yn gwybod neu’n amau sydd neu fyddai’n berthnasol i’r ymchwiliad, yn drosedd.

P’un a ydych yn cael eich cyfweld yn wirfoddol neu o dan bwerau gorfodol Adran 2, efallai y bydd recordiad sain a/neu fideo o’ch tystiolaeth yn cael ei wneud, oherwydd mae’n allweddol ein bod yn deall yn union pa dystiolaeth fyddwch yn gallu ei chyflwyno. Bydd yr ymchwilydd fydd yn cynnal y cyfweliad yn gallu egluro a thrafod hyn gyda chi ymlaen llaw.

Cymryd eich datganiad ysgrifenedig

Yna efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu datganiad tyst, sef cofnod ffurfiol o’r dystiolaeth berthnasol y buasech yn gallu ei rhoi i’r llys. Mae’r broses o lunio a llofnodi datganiad tyst yn wirfoddol, ond mae’n hanfodol os ydych am roi tystiolaeth yn y llys.

Os ydych yn ddioddefwr yn ogystal â thyst posibl, bydd gennych hefyd y cyfle i roi Victim Personal Statement, Datganiad Personol Dioddefwr, Datganiad Effaith ar Fusnes, neu’r ddau, y gellir eu darllen i’r llys os canfyddir bod y diffynnydd yn euog, cyn gosod dedfryd. Efallai y bydd gennych hawl i ddarllen y datganiad i’r llys eich hun, er mwyn egluro’r effaith a gafodd y drosedd arnoch fel unigolyn, neu ar fusnes.

Beth bynnag fo natur y datganiad, bydd ymchwilydd yr SFO fydd yn eich cyfweld neu’n eich helpu gyda hyn yn:

  • egluro beth yw pwrpas y datganiad,
  • egluro’r broses o wneud datganiad,
  • sicrhau ei fod ef neu hi yn deall yn iawn yr hyn yr ydych wedi ei ddweud, neu yn ei ddweud yn y cyfweliad, ac yn ysgrifennu hynny,
  • yn eich caniatáu i ddarllen eich datganiad drafft yn drwyadl er mwyn sicrhau ei bod yn cynrychioli eich tystiolaeth yn gywir,
  • gwneud unrhyw addasiadau yr ydych chi’n credu sy’n briodol, ac
  • yn egluro beth yw’r goblygiadau cyn gofyn i chi ei lofnodi.

Eich datganiad chi yw hwn ac mae’n rhaid i chi fod yn gwbl fodlon â’i gynnwys pan fyddwch yn ei lofnodi, oherwydd efallai y bydd angen i chi egluro unrhyw anghywirdeb neu hepgoriad pan fyddwch yn rhoi tystiolaeth yn y llys.

Cofiwch, mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd hi’n dal yn ofynnol i chi roi tystiolaeth hyd yn oed os na fyddwch yn llofnodi datganiad.

Ni ellir newid cynnwys eich datganiad wedi i chi ei lofnodi. Fodd bynnag, os bydd angen i chi wneud newidiadau neu y byddwch yn dymuno egluro rhywbeth yn ddiweddarach, gallwch wneud datganiad ychwanegol. Os gelwir arnoch i roi tystiolaeth yn y llys byddwch yn cael cyfle i atgoffa’ch hun o’ch tystiolaeth ymlaen llaw drwy ddarllen eich datganiad, ac efallai y byddwch yn cael caniatâd i gyfeirio ato yn y llys.

Cynllunio ymlaen llaw

Os bydd yr SFO yn penderfynu y bydd angen i chi roi tystiolaeth efallai fel tyst yn y llys, byddwn yn cynllunio ymlaen llaw er mwyn lleihau ar yr amhariad a’r gost i chi.

Bydd hyn yn cynnwys gofyn i chi ddigon ymlaen llaw a oes gennych unrhyw ymrwymiadau pendant o gwmpas dyddiad y treial, er enghraifft gwyliau wedi ei fwcio neu apwyntiad mewn ysbyty.Fel tyst ar ran yr erlyniad, bydd y dyddiad y bydd angen i chi roi eich tystiolaeth yn cael ei drefnu gan ystyried eich argaeledd gymaint â phosibl. Ond, mae amserlenni yn ystod y broses dreialu yn dueddol o newid, felly bydd yr SFO yn eich hysbysu’n llawn ac yn ystyried eich cyfleustra os bydd angen i ni newid unrhyw beth.

Yna byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi fel y gallwch wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol mewn da bryd.

Byddwn hefyd yn rhoi cefnogaeth i chi o ran paratoi i roi cefnogaeth yn y llys drwy:

  • egluro gweithdrefn a chynllun y llys,
  • rhoi cyfle i chi edrych o gwmpas llys gwag cyn i chi roi tystiolaeth,
  • ceisio ateb unrhyw gwestiynau ychwanegol fydd gennych neu eich cyfeirio at y person priodol yn yr SFO neu y tu allan,
  • gwneud cais am ‘fesurau arbennig’ mewn da bryd pan fo hynny’n briodol, a
  • delio ag unrhyw faterion hygyrchedd tebygol yn y llys.

Mae llyfryn yr SFO ‘Tyst ar ran y Swyddfa Twyll Difrifol‘ yn rhoi digon o fanylion ynglŷn â hyn: byddwch yn derbyn copi os bydd angen i chi roi tystiolaeth yn y llys. Hefyd, bydd y Swyddog Gofal Tystion yn hapus i egluro unrhyw beth yn fanylach neu eich cyfeirio ar rywun arall fydd yn gallu eich helpu.

Hygyrchedd

Os ydych yn credu y bydd angen addasiadau rhesymol arnoch i’ch galluogi i gael mynediad i wybodaeth neu adeiladau’r SFO, cysylltwch â’r ymchwilydd neu’r Swyddog Gofal Tystion cyn eich ymweliad.
Os ydych yn credu y bydd angen addasiadau rhesymol arnoch i’ch galluogi i gael mynediad i wybodaeth yn y llys neu adeiladau’r llys, cysylltwch â’r ymchwilydd neu’r Swyddog Gofal Tystion. Gallwch hefyd ymgynghori â thudalen cysylltiadau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder sy’n cynnwys manylion cysylltu defnyddiol.

Eich helpu i roi eich tystiolaeth orau

Bydd aelod o’r SFO yn gofyn rhai cwestiynau cychwynnol i chi i asesu eich anghenion fel tyst posibl. Bydd yr asesiad hwn yn cwmpasu unrhyw faterion hygyrchedd, iaith neu gyfathrebu ac os fydd y llys yn barod i ddarparu unrhyw ‘fesurau arbennig’ i’ch helpu i roi eich tystiolaeth orau (gweler isod).  Bydd yr aelod hwnnw o’r SFO hefyd yn ceisio nodi os gallech elwa o wasanaethau arbenigol a ddarperir gan asiantaeth trydydd sector megis Cymorth i Ddioddefwyr, er mai dim ond os ydych eisiau i hyn ddigwydd byddwn ni’n gwneud hyn.

I rai pobl gall y broses o roi tystiolaeth mewn llys fod yn arbennig o anodd. Os bydd hi’n ymddangos y gallai eich tystiolaeth ddioddef oherwydd eich bod yn teimlo’n fregus neu dan fygythiad (mae hyn yn cynnwys plant o dan 18 oed a phobl gyda phroblemau cyfathrebu) gallech fod â hawl i dderbyn ‘mesurau arbennig’. Gall hyn gynnwys:

  • rhoi tystiolaeth o du allan i’r ystafell llys drwy gysylltiad fideo fel na fydd angen i chi weld, na chael eich gweld, gan y diffynnydd;
  • recordio eich datganiad ar fideo fydd yna’n cael ei chwarae yn y llys,
  • sgriniau o gwmpas y blwch tystion fel na fydd angen i chi weld na chael eich gweld gan y diffynnydd.
  • cymorth Cyfryngwr Cofrestredig sydd yn gallu helpu tystion i roi eu tystiolaeth orau.

Mae gennych hawl gofyn i ni am fesurau arbennig. Os byddwn yn asesu y buasech yn elwa o fesurau arbennig, byddwn yn anfon cais i’r llys mewn da bryd cyn dyddiad y treial. Dim ond y llys all benderfynu a yw mesurau arbennig yn addas, o dan bob amgylchiad, ar gyfer eich helpu i roi tystiolaeth. Bydd yr SFO yn eich hysbysu am benderfyniad y llys, a dylai hynny fod nifer o wythnosau cyn i’r treial gychwyn.

Rydym yn eich annog i roi gwybod i ni o unrhyw anghenion sydd gennych, yn arbennig os yw’ch amgylchiadau’n newid gan y gallwn ailasesu eich gofynion, gyda’ch cydsyniad chi.

Yn olaf, cofiwch ei bod yn drosedd i unrhyw un geisio dylanwadu ar y dystiolaeth a rowch i’r SFO, neu’r dystiolaeth y buasech yn ei rhoi yn y llys. Mae hi hefyd yn drosedd i rywun eich atal rhag cydweithredu ag ymchwiliad neu erlyniad.

Mae bygwth tystion yn rhywbeth prin iawn, ond mae’r SFO yn ystyried hyn fel mater difrifol a bydd yn gweithredu er mwyn helpu i atal hyn. Os ydych yn credu eich bod mewn perygl o gael eich bygwth, neu y bu unrhyw ymdrech i ddylanwadu ar y dystiolaeth y buasech yn ei rhoi i ni neu i’r llys, dylech adrodd am hyn ar unwaith i’r heddlu, aelod o’r SFO neu staff y llys, yn ddibynnol ar ble a phryd mae’n digwydd.

Rhoi gwybodaeth i chi

Drwy gydol yr achos, eich prif gysylltiadau yn yr SFO fydd gweinyddwr yr achos a’r Swyddog Gofal Tystion, sy’n gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â chi yn ystod gwahanol gamau. Byddwch yn derbyn eu henwau a’u manylion cyswllt ar adeg briodol yn ystod y broses.

Yn ystod yr ymchwiliad, eich cysylltiad tebygol fydd gweinyddwr yr achos. Os bydd angen i chi fod yn dyst yn y llys, bydd y Swyddog Gofal Tystion ynn cysylltu â chi cyn dyddiad y treial. Y Swyddog Gofal Tystion fydd eich prif gysylltiad ar gyfer delio ag unrhyw ymholiadau neu bryderon fyddai gennych.

Os bydd angen i chi fod yn dyst, dim ond os bydd treial yn cael ei gynnal y bydd angen i chi roi tystiolaeth fel rheol. Fodd bynnag, gall fod o help i chi wybod pan fo cerrig milltir penodol yn cael eu cyrraedd. Yn destun i’r angen i sicrhau diogelwch gwybodaeth, byddwn felly yn rhoi gwybod i chi ynglŷn â:

  • phryd ydym yn penderfynu erlyn, neu beidio erlyn,
  • pryd mae’r diffynnydd yn pledio’n euog neu’n ddieuog,
  • pryd y pennir unrhyw ddyddiad treial, gan roi gwybod y dyddiad a’r lleoliad i chi.

Wrth i’r treial agosáu, byddwn bob amser yn cadarnhau:

  • a oes dal angen i chi roi tystiolaeth neu beidio,
  • ar ba ddyddiad a faint o’r gloch fydd angen i chi fod yn bresennol yn y llys,
  • am ba hyd y mae’n debygol y bydd angen i chi aros yn y llys,
  • sut y gallwn eich helpu os bydd angen i chi aros am fwy o amser, ac
  • enw cynrychiolydd yr SFO yn y llys fydd yn gallu eich helpu.

Pan fo’r treial ar ben, yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn gan y llys a’r angen i sicrhau diogelwch gwybodaeth, byddwn yn rhoi gwybod i chi:

  • a yw’r diffynnydd wedi’i ganfod yn euog neu’n ddieuog,
  • beth yw’r ddedfryd, ac
  • a orchmynnwyd i’r diffynnydd dalu unrhyw iawndal y bydd gennych efallai hawl i’w dderbyn, a beth yw’r broses. Hefyd, mae’n bwysig cofion y byddwn yn eich helpu i gyflwyno unrhyw hawliad am dreuliau, a gwneud unrhyw atgyfeiriadau ychwanegol os bydd angen hynny.

Eich helpu i hawlio treuliau

Os byddwch yn dod i’n swyddfeydd i gael eich cyfweld fel tyst neu’n darparu datganiad tyst, ac na ddarparwyd lluniaeth am ddim i chi, neu na allwch hawlio eich treuliau o ffynhonnell arall, efallai y bydd gennych hawl i adennill treuliau rhesymol gennym ni, yn arbennig os bu i hyn achosi colled ariannol i chi. Bydd yr ymchwilydd fydd yn eich cyfweld yn gallu rhoi mwy o gyngor i chi am hyn.

Os byddwch yn cael gwybod y bydd angen i chi fynychu llys i roi tystiolaeth, byddwn yn anfon llyfryn atoch fydd yn cynnwys y cyfraddau diweddaraf ar gyfer hawlio treuliau, a’r ffurflen gais i chi ei defnyddio. Mae hon yn cynnwys yr holl reolau manwl ynglŷn â hawlio treuliau.

Mae’r rheolau hefyd yn cael eu hegluro yn ‘Tyst ar ran y Swyddfa Twyll Difrifol. I grynhoi yn fyr, gallwch hawlio treuliau cyfyngedig am deithio i ac o’r llys, llety, bwyd a diod di-alcohol (oni bai bod lluniaeth wedi ei ddarparu gan y Gwasanaeth Tystion neu’r llys) ac iawndal ar brydiau am golli cyflog o ganlyniad i fynychu’r llys. Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio costau cysylltiedig megis gofal plant.

Bydd Swyddog Gofal Tystion yr SFO yn falch o egluro’r weithdrefn ac o’ch helpu i lenwi’r ffurflen.

Gwneud cais am iawndal

Mae iawndal yn gysylltiedig â cholled a ddioddefir o ganlyniad i drosedd, ac nid yw’n gysylltiedig â’r broses o fod yn dyst.
Pan fo diffynnydd wedi cael ei gollfarnu, a’i bod yn briodol gwneud hynny, bydd yr SFO yn gwneud cais i’r llys am iawndal i ddioddefwyr yr achos. Bydd y cais hwn yn cael ei wneud ar ddiwedd ymchwiliad atafaelu, a gall hynny gymryd cryn amser i’w gwblhau yn dilyn y collfarnu.

Gellir gwneud cais am ran o’r colledion, neu’r holl golledion a ddeilliodd yn uniongyrchol o’r troseddau y collfarnwyd y diffynnydd mewn perthynas â hwy, gan ystyried ffeithiau penodol yr achos a’r amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys p’un a ydych wedi derbyn iawndal o ffynhonnell arall. Gall fod yna achosion pan nad yw’n briodol gwneud cais am iawndal. Y llys fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â chaniatáu iawndal neu beidio.

Mater i’r llys hefyd yw penderfynu ar swm unrhyw orchymyn iawndal, a bydd unrhyw swm fydd yn daladwy i chi yn ddibynnol ar y diffynnydd yn bodloni’r gorchymyn digolledu. Efallai y bydd y diffynnydd hefyd yn cael amser i dalu, sy’n golygu y gall yr arian gael ei dalu i chi fel rhandaliadau.

O ystyried hyn, rydym yn awgrymu eich bod yn cael cyngor cyfreithiol annibynnol ynglŷn â’r golled yr ydych yn credu i chi ei dioddef. Hefyd, efallai y bydd arweiniad ar gael gan
Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu eich Canolfan y Gyfraith leol.

Gwahodd eich adborth

Rydym yn croesawu pob adborth. Rydym yn ymrwymedig i ddilyn safonau’r Comisiynydd Dioddefwyr ar gyfer delio â chwynion..

Os nad ydych yn fodlon ynghylch unrhyw agerdd o’r lefel o wasanaeth a dderbynioch, yn cynnwys os ydych yn teimlo nad yw’r SFO wedi bodloni eich hawliau fel y nodir yn y Cod Dioddefwyr, gallwch roi adborth i ni neu wneud cwyn trwy wefan yr SFO. Nid yw hyn yn cynnwys y penderfyniadau neu ddyfarniadau a wneir gan y llys.

Os byddai’n well gennych siarad â rhywun, gallwch siarad â Swyddog Gofal Tystion. Neu gallwch roi unrhyw adborth arall drwy anfon e-bost atom yn [email protected].

Hawl Dioddefwr i Adolygiad

Os bydd yr SFO yn penderfynu terfynu ymchwiliad ffurfiol neu erlyniad yn gyfan gwbl, a’ch bod wedi rhoi gwybod i’r SFO eich bod yn ddioddefwr, byddwch yn cael gwybod am natur a’r rheswm dros y penderfyniad, yn amodol i’r angen i gynnal diogelwch gwybodaeth.

Dolenni i wybodaeth bellach

Gellir gweld y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd yma.

Gellir gweld y Siarter Tystion yma.

Gwybodaeth i chwythwyr chwiban

Chwythu chwiban yw pan fo gweithiwr yn adrodd am ddrygioni y mae’n amau sy’n digwydd yn y gwaith. Yn swyddogol gelwir hyn yn “ddatgelu er lles y cyhoedd”. Os ydych yn amau bod drygioni yn digwydd yn y gweithle, dylech ddilyn gweithdrefn chwythu’r chwiban eich sefydliad. Os nad oes gweithdrefn yn bodoli neu os nad ydych yn gyfforddus ynglŷn ag adrodd am y mater yn fewnol, mae yna nifer o gyrff rhagnodedig y gallwch adrodd am hynny iddynt yn gyfrinachol. Mae yna gyngor defnyddiol ar wefan Gov.uk.

Mae’r Swyddfa Twyll Difrifol yn un o’r cyrff rhagnodedig hynny a hoffem glywed gennych os yw’r drygioni yn ymwneud â thwyll, llwgrwobrwyo neu lygredigaeth difrifol neu gymhleth gan gwmni yn y DU. Mewn amgylchiadau o’r fath buasem yn eich cymell i gysylltu â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen adrodd yn ddiogel.

Gwarchodaeth gyfreithiol i chwythwyr chwiban

Mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 yn cynnwys cyflogeion, contractwyr, hyfforddeion, staff asiantaeth, gweithwyr cartref, swyddogion yr heddlu a phob gweithiwr proffesiynol yn y GIG. Nid yw cyfyngiadau ddeddf cyflogaeth ynglŷn ag isafswm cyfnod cymhwyso ac oedran yn gymwys i’r Ddeddf hon. Nid yw’n cynnwys pobl hunangyflogedig (ac eithrio yn y GIG), gwirfoddolwyr, y gwasanaethau cudd-wybodaeth na’r lluoedd arfog.

Os ydych angen cyngor cyfrinachol ynglŷn â beth sy’n gynwysedig o dan PIDA a beth yw’r ffordd orau o fynegi eich pryderon, efallai y byddwch eisiau siarad â’ch cyfreithiwr eich hun neu siarad â thîm cyfreithiol Pryder Cyhoeddus yn y Gwaith (elusen annibynnol ac awdurdod blaenllaw ar ddatgelu er lles y cyhoedd). Gallwch gysylltu â hwy ar 020 7404 6609, drwy e-bost ar [email protected] neu gallwch fynd i’w gwefan, www.pcaw.org.uk/.

Ni all yr SFO roi cyngor cyfreithiol nac ymyrryd mewn materion cyflogaeth ac nid oes gennym bwerau ar gyfer penderfynu a yw gwarchodaeth PIDA yn gymwys neu beidio. Fodd bynnag, byddwn yn cofnodi eich datgeliad os ydych yn dymuno hynny. Gofynnwch i ni pan fyddwch yn adrodd am y digwyddiad a byddwn yn sicrhau y bydd eich datgeliad i ni yn cael ei gofnodi ar gyfer y dyfodol os byddwch angen hynny.

Sgamiau pensiwn

Mae Prosiect Bloom, ymgyrch amlasiantaethol, yn amcanu at helpu atal math o dwyll pan fo aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i ddefnyddio eu cronfeydd pensiwn cyn iddynt ymddeol, heb ddeall yn iawn beth yw’r cosbau treth neu’r potensial o gael eu sgamio i symud eu cynilion pensiwn i fuddsoddiadau risg uchel neu ffug sydd heb eu rheoleiddio allai arwain at golli eu holl arian pensiwn.

Mae’r ymgyrch yn cael ei harwain gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Rheoleiddiwr Pensiynau, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau, Gwasanaeth Cyngor Ariannol, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, y Swyddfa Twyll Difrifol, Cyllid a Thollau EM, Action Fraud, yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol a Heddlu Dinas Llundain.

Mae gwybodaeth lawn am yr ymgyrch ar wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Mae sgamiau pensiwn yn gyffredin iawn yn y DU ac mae’n debygol nad adroddir am yr holl sgamiau. Defnyddir ‘buddsoddiadau pensiwn untro’, ‘benthyciadau pensiwn’, neu ‘gyfandaliadau’ er mwyn annog rhai sy’n cynilo i ryddhau’r arian a ddelir yn eu cronfeydd pensiwn. Er bod yr hyn a gynigir yn swnio’n ddeniadol ac yn drosglwyddiad pensiwn cyfreithiol, mae yna risg uchel y bydd eu harian yn cael ei symud i drefniadau buddsoddi amheus pan fo aelodau yn rhyddhau eu harian, a hynny dramor a heb ei reoleiddio yn aml. Yn aml nid yw aelodau’n cael eu rhybuddio’n briodol y byddant yn wynebu costau treth uchel os byddant yn defnyddio eu cronfeydd pensiwn cyn yr isafswm oedran cyfreithiol o 55, ac y bydd y rhai sy’n trefnu’r trafodion yn sgimio canran sylweddol fel ffioedd.

Mae’r rhai sy’n gweithredu’r sgamiau hyn yn aml yn cysylltu ag aelodau cynlluniau pensiwn drwy alwadau ffôn digymell, negeseuon testun neu e-bost, gyda ‘chynghorwyr’ perswadiol, llenyddiaeth a gwefannau er mwyn gwneud i’r hyn y maent yn ei gynnig ymddangos yn gyfreithlon.

Gwiriwch y ffeithiau cyn bod penderfyniad na ellir ei wyrdroi yn cael ei wneud. Gellir colli cynilion oes mewn eiliad.

Cyngor allweddol ar gyfer osgoi cael eich sgamio:

  1. 1. Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth ariannol bersonol i alwr digroeso.
  2. 2. Ewch ati i wybod beth yw cefndir y cwmni ac a yw’r cynghorwyr wedi eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) www.fca.org.uk/register
  3. 3. Adolygwch ddeunydd hyrwyddo’r cynllun sy’n cael ei gynnig a gofyn am ddatganiad sy’n dangos sut fydd eich pensiwn yn cael ei dalu pan fyddwch yn ymddeol. Holwch pwy fydd yn edrych ar ôl eich arian tan hynny.
  4. 4. Ceisiwch gyngor annibynnol cyn cytuno i drosglwyddo unrhyw bensiwn.
  5. 5. Peidiwch fyth â chael eich rhuthro i gytuno i drosglwyddo eich pensiwn.
  6. 6. Ystyriwch gyfleoedd buddsoddi tramor yn ofalus, oherwydd gallant fod y tu hwnt i reoleiddio’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
  7. 7. Edrychwch ar y llyfryn sgamiau pensiynau sydd ar gael ar wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Action Fraud yw canolfan genedlaethol y DU ar gyfer adrodd am dwyll a throseddau ar y rhyngrwyd. Mae’n bwynt cysylltu canolog ar gyfer gwybodaeth am dwyll a throsedd ar y rhyngrwyd sydd â chymhelliant ariannol. Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef hyn neu fath arall o dwyll, cysylltwch ag Action Fraud y tro cyntaf ar 0300 123 2040, neu drwy eu gwefan.

Am wybodaeth ac arweiniad diduedd am gynlluniau pensiwn, trowch at Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau neu eu ffonio ar 0300 123 1047.