Cyhuddo pum person yn achos twyll safleoedd cloddio yn Ne Cymru
24 Ionawr, 2013 | Eitemau newyddion
Heddiw, cyhuddwyd pum person o gynllwynio i dwyllo mewn perthynas â gwerthu pedwar safle glo brig yn Ne Cymru. Y diffynyddion yw:
- Eric Evans (67 oed) o’r Fenni, Sir Fynwy
- Alan Whiteley (oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganol
- Frances Bodman (30 oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganol
- Richard Walters (32 oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganol
- Leighton Humphreys (38 oed) o Gaerdydd, De Morgannwg
Bydd y diffynyddion yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar ddydd Mercher 30 Ionawr.
Bu iddynt gael eu cyhuddo yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd o gynllwynio i dwyllo Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Powys a’r Awdurdod Glo drwy effeithio’n fwriadol ar eu gallu i orfodi rhwymedigaethau yn effeithiol i adfer safleoedd glo brig fel cefn gwlad agored a/neu ar gyfer ddefnydd amaethyddol. Y safleoedd hyn yw Pwll Dwyreiniol, Nant Helen (Nant Gyrlais), Selar a Margam (Parc Slip a Chynffig).
Honnir bod y cynllwyn yn cynnwys sefydlu cwmnïau ar Ynysoedd British Virgin ym mherchnogaeth llesiannol terfynol Eric Evans a David Alan Whiteley gyda’r bwriad i deitl rhydd-ddaliad y pedwar safle gael eu trosglwyddo o Celtic Energy i’r cwmnïau BVI, gan ryddhau darpariaethau a wnaethpwyd yng nghyfrifon blynyddol Celtic Energy mewn perthynas ag atebolrwydd ariannol i adfer y safleoedd a bod hyn wedi ei wneud er budd i’r cynllwynwyr.
Nodiadau i olygyddion:
- Derbyniwyd yr achos ar gyfer ymchwiliad gan y Swyddfa Twyll Difrifol ym mis Ionawr 2011.
- Oherwydd bod yr achos yn mynd rhagddo, mae rheol atebolrwydd llym Deddf Dirmyg Llys 1982 nawr yn gymwys.
- Ar yr adeg berthnasol roedd Richard Walters a Leighton Humphreys yn Gyfarwyddwyr Celtic Energy Limited yng Nghaerffili ac roedd y tri diffynnydd arall yn gyfreithwyr.