We aim to make this site as accessible as possible and therefore have provided the settings below to use if you are finding it difficult to view this website. See the SFO Accessibility Statement for more information.

Where it is appropriate to provide a Welsh translation, you can switch to Cymraeg. See the Welsh Language Commissioner website for more information.

Use the settings button in the bottom right corner of the page to access these settings again.

We would like to use Analytics Cookies on our website. 

Turn these on below if you are happy with us collecting information on how our site is used, in order for us to improve the overall experience of our website. 

All other cookies are necessary and therefore by continuing to browse this website, you are agreeing to the usage of these cookies.

 See the SFO Privacy Policy for more information. 

Analytics Cookies

Chwe thwyllwr, gan gynnwys cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, yn cael eu dedfrydu i 25 mlynedd mewn cynllun prentisiaeth pêl-droed twyllodrus £5m

26 Chwefror, 2018 | Eitemau newyddion

Heddiw, dedfrydwyd Keith Williams, Paul Sugrue a chyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru, Mark Aizlewood i gyfanswm o 25 mlynedd a 5 mis o garchar yn Llys y Goron Southwark am eu rhan mewn cynllun prentisiaeth £5m twyllodrus a oedd yn targedu colegau, elusennau, clybiau pêl-droed a chymdeithasau chwaraeon.

Dedfrydwyd Jack Harper yn sgil achos o dwyll cysylltiedig hefyd a dargedodd un coleg penodol.

Yn ogystal, dedfrydwyd Christopher Martin a Steven Gooding wedi iddynt bledio’n euog cyn cychwyn yr achos y llynedd.

Gyda’i gilydd, rhedodd y dynion Luis Michael Training Ltd yn dwyllodrus ers ei sefydlu yn 2009 – gan greu prentisiaethau ffug a alluogodd iddynt ddargyfeirio £5m o arian cyhoeddus i’w hunain, arian a glustnodwyd gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau i greu prentisiaethau i bobl ifanc fregus.

Gan gysylltu â cholegau addysg fel is-gontractwr, hawliodd Luis Michael Training Ltd y byddai’n darparu gwasanaethau hyfforddiant i greu prentisiaethau hyfforddi pêl-droed i bobl ifanc. Yn hytrach, aeth y cwmni ati i greu cynllun twyllodrus lle na lwyddodd y rhan fwyaf o’r bobl y cymwysterau na’r hyfforddiant a addawyd. Bu i’r diffynyddion hefyd ddwyn a chreu hunaniaethau i guddio’u troseddau.

Wrth ddedfrydu’r dynion, dywedodd Ei Anrhydedd Barnwr Tomlinson:

“Roedd hyn yn ecsbloitiaeth gywilyddus o drethdalwyr a cholegau. Bu i chi gamddefnyddio symiau anhygoel o arian Llywodraeth dan esgus eich bod yn helpu pobl ifanc dan anfantais.  Bu i chi ecsbloetio’r sefyllfa drist hon ac roedd eich ymgysylltiad yn anonest o’r cychwyn cyntaf.”

Dywedodd Cwnsel Cyffredinol yr SFO Alun Milford:

“Bu i’r dynion hyn ddwyn arian cyhoeddus a fwriadwyd ar gyfer pobl ifanc iddynt fedru cychwyn ar eu taith mewn bywyd – roeddynt yn droseddau sinicaidd a llwyddwyd i’w cosbi amdanynt heddiw.”

Dedfrydwyd Mark Aizlewood i chwe blynedd.

Dedfrydwyd Christopher Martin i ddwy flynedd a thri mis a phum mlynedd a thri mis o garchar i’w treulio’n gyfredol.

Dedfrydwyd Keith Williams i dair a saith mlynedd o garchar, i’w treulio’n gyfredol.

Dedfrydwyd Keith Williams i dair a saith mlynedd o garchar, i’w treulio’n gyfredol.

Dedfrydwyd Steven Gooding i 20 mis o garchar.

Dedfrydwyd Jack Harper i ddau gyfnod o 18 mis o garchar i’w treulio’n gyfredol. 

Datgymhwyswyd Jack Harper a Steven Gooding hefyd rhag bod yn gyfarwyddwyr am saith mlynedd yr un.

Nodyn i Olygyddion:

  • Am ragor o fanylion am yr achos yn erbyn Luis Michael Training gweler ein datganiad newyddion ar gollfarnau yma.