Chwe thwyllwr, gan gynnwys cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, yn cael eu dedfrydu i 25 mlynedd mewn cynllun prentisiaeth pêl-droed twyllodrus £5m
26 Chwefror, 2018 | Eitemau newyddion
Heddiw, dedfrydwyd Keith Williams, Paul Sugrue a chyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru, Mark Aizlewood i gyfanswm o 25 mlynedd a 5 mis o garchar yn Llys y Goron Southwark am eu rhan mewn cynllun prentisiaeth £5m twyllodrus a oedd yn targedu colegau, elusennau, clybiau pêl-droed a chymdeithasau chwaraeon.
Dedfrydwyd Jack Harper yn sgil achos o dwyll cysylltiedig hefyd a dargedodd un coleg penodol.
Yn ogystal, dedfrydwyd Christopher Martin a Steven Gooding wedi iddynt bledio’n euog cyn cychwyn yr achos y llynedd.
Gyda’i gilydd, rhedodd y dynion Luis Michael Training Ltd yn dwyllodrus ers ei sefydlu yn 2009 – gan greu prentisiaethau ffug a alluogodd iddynt ddargyfeirio £5m o arian cyhoeddus i’w hunain, arian a glustnodwyd gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau i greu prentisiaethau i bobl ifanc fregus.
Gan gysylltu â cholegau addysg fel is-gontractwr, hawliodd Luis Michael Training Ltd y byddai’n darparu gwasanaethau hyfforddiant i greu prentisiaethau hyfforddi pêl-droed i bobl ifanc. Yn hytrach, aeth y cwmni ati i greu cynllun twyllodrus lle na lwyddodd y rhan fwyaf o’r bobl y cymwysterau na’r hyfforddiant a addawyd. Bu i’r diffynyddion hefyd ddwyn a chreu hunaniaethau i guddio’u troseddau.
Wrth ddedfrydu’r dynion, dywedodd Ei Anrhydedd Barnwr Tomlinson:
“Roedd hyn yn ecsbloitiaeth gywilyddus o drethdalwyr a cholegau. Bu i chi gamddefnyddio symiau anhygoel o arian Llywodraeth dan esgus eich bod yn helpu pobl ifanc dan anfantais. Bu i chi ecsbloetio’r sefyllfa drist hon ac roedd eich ymgysylltiad yn anonest o’r cychwyn cyntaf.”
Dywedodd Cwnsel Cyffredinol yr SFO Alun Milford:
“Bu i’r dynion hyn ddwyn arian cyhoeddus a fwriadwyd ar gyfer pobl ifanc iddynt fedru cychwyn ar eu taith mewn bywyd – roeddynt yn droseddau sinicaidd a llwyddwyd i’w cosbi amdanynt heddiw.”
Dedfrydwyd Mark Aizlewood i chwe blynedd.
Dedfrydwyd Christopher Martin i ddwy flynedd a thri mis a phum mlynedd a thri mis o garchar i’w treulio’n gyfredol.
Dedfrydwyd Keith Williams i dair a saith mlynedd o garchar, i’w treulio’n gyfredol.
Dedfrydwyd Keith Williams i dair a saith mlynedd o garchar, i’w treulio’n gyfredol.
Dedfrydwyd Steven Gooding i 20 mis o garchar.
Dedfrydwyd Jack Harper i ddau gyfnod o 18 mis o garchar i’w treulio’n gyfredol.
Datgymhwyswyd Jack Harper a Steven Gooding hefyd rhag bod yn gyfarwyddwyr am saith mlynedd yr un.
Nodyn i Olygyddion:
- Am ragor o fanylion am yr achos yn erbyn Luis Michael Training gweler ein datganiad newyddion ar gollfarnau yma.