We aim to make this site as accessible as possible and therefore have provided the settings below to use if you are finding it difficult to view this website. See the SFO Accessibility Statement for more information.

Where it is appropriate to provide a Welsh translation, you can switch to Cymraeg. See the Welsh Language Commissioner website for more information.

Use the settings button in the bottom right corner of the page to access these settings again.

We would like to use Analytics Cookies on our website. 

Turn these on below if you are happy with us collecting information on how our site is used, in order for us to improve the overall experience of our website. 

All other cookies are necessary and therefore by continuing to browse this website, you are agreeing to the usage of these cookies.

 See the SFO Privacy Policy for more information. 

Analytics Cookies

Cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru a phump arall yn euog mewn cynllun prentisiaeth £5m o dwyll

5 Chwefror, 2018 | Eitemau newyddion

Heddiw, cafwyd Keith Williams, Paul Sugrue a’r cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol i Gymru, Mark Aizlewood, yn euog o dwyll mewn cynllun prentisiaeth £5m a oedd yn targedu colegau, elusennau, clybiau pêl-droed a chymdeithasau chwaraeon.

Yn ogystal, cafwyd Jack Harper yn euog o 2 gyhuddiad yn gysylltiedig â cheisio twyllo un coleg, flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae’r collfarnau’n dilyn pledion euog gan Christopher Martin a Steven Gooding cyn cychwyn yr achos y llynedd.

Gyda’i gilydd, rhedodd y dynion Luis Michael Training Ltd a gymerodd tua £5m o arian cyhoeddus drwy dwyll, arian a glustnodwyd gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau i greu prentisiaethau i bobl ifanc fregus.

Gan gysylltu â cholegau addysg fel is-gontractwr, hawliodd Luis Michael Training Ltd y byddai’n darparu gwasanaethau hyfforddiant i greu prentisiaethau hyfforddi pêl-droed i bobl ifanc. Yn hytrach, aeth y cwmni ati i greu cynllun twyllodrus.

Ers ei lansio yn 2009 a thrwy gydol ei fodolaeth, prin iawn, os o gwbl, oedd y ddarpariaeth angenrheidiol a roddodd Luis Michael Training Ltd i brentisiaid iddynt fod yn gymwys fel hyfforddwyr pêl-droed ac aethant ati hyd yn oed i greu ‘dysgwyr ffug’, gan ddwyn hunaniaethau er mwyn creu prentisiaid nad oedd yn bodoli.

Ymdrechodd y cwmni’n galed i ymddangos fel un dilys, gan hyd yn oed gael eu hyrwyddo gan gyn sêr y byd pêl-droed fel Ian Rush, a dibynnu ar eu henw adnabyddus i argyhoeddi colegau, clybiau pêl-droed a phrentisiaid bod eu cynllun yn un gwirioneddol ddilys.

Dioddefodd miloedd o bobl ifanc fregus yn sgil y twyll. Wedi eu twyllo rhag cael hyfforddiant gwirioneddol drwy’r cynllun prentisiaeth ffug, ni chafodd y rhan fwyaf ohonynt y cymwysterau a addawyd iddynt wrth gofrestru, na’r swyddi hyfforddi pêl-droed a addawyd ychwaith. Tynnwyd disgyblion chweched dosbarth i mewn i’r cynllun twyllodrus hyd yn oed, wrth iddynt gael y dasg o gwblhau profion asesu dan enwau’r prentisiaid honedig, er mwyn i Luis Michael Training fedru dangos i’w colegau bod eu ‘myfyrwyr’ yn bodloni gofynion y cynllun.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr SFO, David Green, QC:

“Bu i’r dynion hyn dynnu arian trethdalwyr yn dwyllodrus oddi wrth y cynlluniau a fwriadwyd ar gyfer gweddnewid bywydau pobl ifanc. Yn hytrach, roedd eu cynllun prentisiaeth yn gwbl ffug.”

Dan gynllun prentisiaeth yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau, byddai Luis Michael Training yn cael arian ar gyfer y prentisiaid a roddwyd dan ofal cyflogwr a oedd yn bodloni’r meini prawf. Ond llwyddodd y cwmni i osgoi’r gofynion, gan greu gwaith papur chyfriflenni ariannol ffug er mwyn casglu arian addysg.

Collodd y colegau a dargedwyd dros £3.5m yn sgil y twyll, gan achosi caledi ariannol difrifol a lleihau’r arian a oedd ar gael ar gyfer gwasanaethau, dosbarthiadau a chyrsiau eraill mewn ysgolion.

Cafodd bron i 150 o glybiau pêl-droed, cymdeithasau chwaraeon ac elusennau eu twyllo hefyd i ddarparu gwasanaethau i Luis Michael Training, ond ni chawsant erioed eu talu am y gwaith a ddarparwyd, gan effeithio ar eu gallu i gefnogi prosiectau cymunedol sylfaenol a rhaglenni allgymorth eraill.

Yn dilyn ei gysylltiad â Luis Michael Training, dechreuodd Jack Harper, dan yr enw Football Qualifications.com, ei gynllun twyllodrus ei hun a cheisiodd greu partneriaeth gyda Choleg Cymunedol Lerpwl i ddarparu hyfforddiant i brentisiaid. Yn sgil gwaith archwilio gan y coleg, canfuwyd bod y garfan gychwynnol o ddysgwyr yn anghymwys ar gyfer yr arian prentisiaeth, gyda dogfennau ffug wedi eu darparu er sylw’r coleg i’w hargyhoeddi bod y dysgwyr mewn gwaith.

Bydd y dedfrydau’n cael eu cyhoeddi ar 26 Chwefror 2018 yn Llys y Goron Southwark.

LMT Explainer Graphic

Nodyn i Olygyddion

  1. Dechreuodd yr SFO archwilio’r achos hwn ym mis Tachwedd 2011, yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu Gwent. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yn: https://www.sfo.gov.uk/cases/luis-michael-trading-ltd/
  2. Canolbwyntiodd yr achos ar gyfnod o 16 mis pan gafodd Luis Michael Training tua £5m o arian cyhoeddus drwy honni’n ffug eu bod wedi darparu hyfforddiant prentisiaeth i bobl ifanc.
  3. Gorfodwyd i golegau a dargedwyd gan y cynllun prentisiaeth twyllodrus ad-dalu arian a dderbyniwyd am ddysgwyr anghymwys, i’r Asiantaeth Ariannu Sgiliau.
  4. Ar 31 Mawrth 2017, plediodd Steven Gooding yn euog o un achos o gynllwynio i dwyllo drwy ymhoniad anwir, yn groes i adran 1(1) o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977
  5. Ar 5 Medi 2017, plediodd Christopher Martin yn euog o un achos o gynllwynio i dwyllo drwy ymhoniad anwir, yn groes i adran 1(1) o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977,
  6. Ar 5 Chwefror 2018:
    1. Cafwyd Mark Aizlewood yn EUOG o gynllwynio i dwyllo drwy ymhoniad anwir, yn gysylltiedig ag adran 1(1) o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977 ond yn DDIEUOG o’r un cyhuddiad yn gysylltiedig â ffugio cyfrifon ariannol.
    2. Cafwyd Keith Anthony Williams yn EUOG ar 2 achos o gynllwynio i dwyllo drwy ymhoniad anwir, yn unol ag adran 1(1) o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977.
    3. Cafwyd Paul Anthony Sugrue yn EUOG ar 2 achos o gynllwynio i dwyllo drwy ymhoniad anwir, yn unol ag adran 1(1) o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977.
    4. Cafwyd Jack William Harper yn:
      1. DDIEUOG o 1 achos o gynllwynio i dwyllo drwy ymhoniad anwir, yn groes i adran 1(1) o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977.
      2. Yn EUOG o 1 achos o dwyll, yn groes i adran 1 o Ddeddf Dwyll 2006
      3. Yn EUOG o 1 achos o ddefnyddio offeryn ffug, yn groes i adran 3 o Ddeddf Ffugiadau a Drwgfathu 1981.
  7. Cwnsel yr Erlyniaeth:
    1. Alexandra Healy QC
    2. Timothy Godfrey
    3. Natalie McNamee
  8. Cwnsel yr Amddiffyniaeth:
    1. Ar gyfer Aizlewood: Nigel Lambert QC, Martin Taylor
    2. Ar gyfer Martin: Justin Rouse QC, Rhiannon Sadler
    3. Ar gyfer Williams: Gordon Cole QC, Nicola Daley
    4. Ar gyfer Sugrue: Gary Bell QC, Alex Stein
    5. Ar gyfer Harper: Peter Wright QC, Anna Mackenzie
    6. Ar gyfer Gooding: Christopher Smyth