We aim to make this site as accessible as possible and therefore have provided the settings below to use if you are finding it difficult to view this website. See the SFO Accessibility Statement for more information.

Where it is appropriate to provide a Welsh translation, you can switch to Cymraeg. See the Welsh Language Commissioner website for more information.

Use the settings button in the bottom right corner of the page to access these settings again.

We would like to use Analytics Cookies on our website. 

Turn these on below if you are happy with us collecting information on how our site is used, in order for us to improve the overall experience of our website. 

All other cookies are necessary and therefore by continuing to browse this website, you are agreeing to the usage of these cookies.

 See the SFO Privacy Policy for more information. 

Analytics Cookies

Richard Kingston yn cael ei ddyfarnu’n euog a’i ddedfrydu am ddinistrio tystiolaeth o lwgrwobrwyo a llygredd

21 Rhagfyr, 2016 | Eitemau newyddion

Cafwyd unigolyn oedd wedi ei gyhuddo yng nghyswllt ymchwiliad i lwgrwobrwyo a llygredd gan yr SFO, sy’n parhau, yn euog gan reithgor heddiw am ddwy drosedd o ddinistrio tystiolaeth, yn groes i adran 2(16) Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987.

Collfarnwyd Richard Kingston, 54, o Dde Cymru am guddio dwy ffôn symudol, eu dinistrio neu eu gwaredu mewn modd arall, gan wybod neu amau bod y data ar y ffonau hynny yn berthnasol i ymholiadau’r SFO.

Fe’i dedfrydwyd yr un diwrnod i 12 mis o garchar ar y ddau gyfrif, i gyd-redeg.

Arestiwyd Mr Kingston am y tro cyntaf yn Rhagfyr 2014 yng nghyswllt ymchwiliad gan yr SFO i lwgrwobrwyon tybiedig a dalwyd gan y cwmni Sweett Group PLC, cwmni adeiladu a gwasanaethau proffesiynol, yr oedd wedi gweithio iddynt yn y gorffennol fel Rheolwr Gyfarwyddwr yn y Dwyrain Canol.

Arestiwyd Mr Kingston eto ym Mehefin 2015 yng nghyswllt ymchwiliad arall gan yr SFO sydd hefyd yn parhau.

Dywedodd Tom Payne, oedd yn cynrychioli’r SFO yn y llys, wrth y rheithgor, er gwaethaf gwybod am ymchwiliad yr SFO, bod Mr Kingston wedi dinistrio ffonau symudol yn cynnwys negeseuon e-bost, testun a Whatsapp oedd yn berthnasol i ymchwiliad yr SFO.

Dywedodd y Cwnsel Cyffredinol Alun Milford: “Cymerodd Richard Kingston gamau gweithredol i rwystro ein hymchwiliadau i’w ran, a rhan pobl eraill, mewn talu llwgrwobrwyon tybiedig. Ni fyddwn yn oedi cyn erlyn y rhai all fynd ati yn yr un modd i amharu ar ein hymchwiliadau.”

Nodyn i Olygyddion:

  1. Cyhoeddwyd y cyhuddiadau yn erbyn Richard Kingston yn Hydref 2015.
  2. Dedfrydwyd Sweett Group PLC yn Chwefror eleni am droseddau dan Ddeddf Llwgrwobrwyo a’u gorchymyn i dalu £2.25 miliwn yn dilyn ple euog yn Rhagfyr 2015. Am ragor o wybodaeth am yr achos hwn gweler y datganiad i’r wasg yma.
  3. Hoffai’r SFO ddiolch yn arbennig i Heddlu De Cymru a’r Heddlu Metropolitan am eu cymorth gyda’r ymchwiliad.