Richard Kingston yn cael ei ddyfarnu’n euog a’i ddedfrydu am ddinistrio tystiolaeth o lwgrwobrwyo a llygredd
21 Rhagfyr, 2016 | Eitemau newyddion
Cafwyd unigolyn oedd wedi ei gyhuddo yng nghyswllt ymchwiliad i lwgrwobrwyo a llygredd gan yr SFO, sy’n parhau, yn euog gan reithgor heddiw am ddwy drosedd o ddinistrio tystiolaeth, yn groes i adran 2(16) Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987.
Collfarnwyd Richard Kingston, 54, o Dde Cymru am guddio dwy ffôn symudol, eu dinistrio neu eu gwaredu mewn modd arall, gan wybod neu amau bod y data ar y ffonau hynny yn berthnasol i ymholiadau’r SFO.
Fe’i dedfrydwyd yr un diwrnod i 12 mis o garchar ar y ddau gyfrif, i gyd-redeg.
Arestiwyd Mr Kingston am y tro cyntaf yn Rhagfyr 2014 yng nghyswllt ymchwiliad gan yr SFO i lwgrwobrwyon tybiedig a dalwyd gan y cwmni Sweett Group PLC, cwmni adeiladu a gwasanaethau proffesiynol, yr oedd wedi gweithio iddynt yn y gorffennol fel Rheolwr Gyfarwyddwr yn y Dwyrain Canol.
Arestiwyd Mr Kingston eto ym Mehefin 2015 yng nghyswllt ymchwiliad arall gan yr SFO sydd hefyd yn parhau.
Dywedodd Tom Payne, oedd yn cynrychioli’r SFO yn y llys, wrth y rheithgor, er gwaethaf gwybod am ymchwiliad yr SFO, bod Mr Kingston wedi dinistrio ffonau symudol yn cynnwys negeseuon e-bost, testun a Whatsapp oedd yn berthnasol i ymchwiliad yr SFO.
Dywedodd y Cwnsel Cyffredinol Alun Milford: “Cymerodd Richard Kingston gamau gweithredol i rwystro ein hymchwiliadau i’w ran, a rhan pobl eraill, mewn talu llwgrwobrwyon tybiedig. Ni fyddwn yn oedi cyn erlyn y rhai all fynd ati yn yr un modd i amharu ar ein hymchwiliadau.”
Nodyn i Olygyddion:
- Cyhoeddwyd y cyhuddiadau yn erbyn Richard Kingston yn Hydref 2015.
- Dedfrydwyd Sweett Group PLC yn Chwefror eleni am droseddau dan Ddeddf Llwgrwobrwyo a’u gorchymyn i dalu £2.25 miliwn yn dilyn ple euog yn Rhagfyr 2015. Am ragor o wybodaeth am yr achos hwn gweler y datganiad i’r wasg yma.
- Hoffai’r SFO ddiolch yn arbennig i Heddlu De Cymru a’r Heddlu Metropolitan am eu cymorth gyda’r ymchwiliad.