We aim to make this site as accessible as possible and therefore have provided the settings below to use if you are finding it difficult to view this website. See the SFO Accessibility Statement for more information.

Where it is appropriate to provide a Welsh translation, you can switch to Cymraeg. See the Welsh Language Commissioner website for more information.

Use the settings button in the bottom right corner of the page to access these settings again.

We would like to use Analytics Cookies on our website. 

Turn these on below if you are happy with us collecting information on how our site is used, in order for us to improve the overall experience of our website. 

All other cookies are necessary and therefore by continuing to browse this website, you are agreeing to the usage of these cookies.

 See the SFO Privacy Policy for more information. 

Analytics Cookies

Cyhuddo chwech yn dilyn ymchwiliad i gynllun prentisiaeth

4 Mai, 2016 | Eitemau newyddion

Ymddangosodd chwe unigolyn gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw, wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad ag ymchwiliad gan y Swyddfa Twyll Difrifol i weithgareddau Luis Michael Training Ltd, cwmni yn ymhonni i fod yn darparu pobl ifanc â chynlluniau prentisiaeth seiliedig ar bêl-droed.

Mark Aizlewood [56, o Aberdâr, Cymru], Christopher Paul Martin [51, o Newbury, Lloegr], Keith Anthony Williams [43, o Ynys Môn, Cymru], Paul Anthony Sugrue [55, o Gaerdydd, Cymru], Steven Paul Gooding [52, o Bridgwater, Lloegr] a Jack William Harper [29, o Southport, Lloegr] gyda throseddau yn amrywio o gynllwynio i gyflawni twyll trwy ymhoniad anwir, i dwyll a defnyddio offeryn ffug.

Honnir bod Luis Michael Training Ltd wedi hawlio nifer o daliadau gan sawl coleg Addysg Bellach ar gyfer gwasanaethau hyfforddiant ac addysg na wnaethant eu darparu, mewn gwirionedd.

Mark Aizlewood, Paul Anthony Sugrue, Christopher Paul Martin a Keith Anthony Williams yn gyfarwyddwyr a rhanddeiliaid yn Luis Michael Training Ltd. Dywedir bod Steven Paul Gooding a Jack William Harper wedi eu cyflogi i recriwtio dysgwyr ar gyfer y cwmni hwn.

Honnir i Jack William Harper gyflawni ymgais ar wahân ond cysylltiedig i dwyllo coleg Addysg Bellach, dan yr enw FootballQualifications.com.

Digwyddodd yr ymddygiad honedig rhwng 2009 a 2011.

Bydd y chwe diffynnydd yn ymddangos nesaf yn Southwark Crown Court ar 1/06/2016.

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Mae Luis Michael Training Ltd a FootballQualifications.com wedi rhoi’r gorau i weithredu.
  2. Derbyniwyd yr achos i’w ymchwilio yn Medi 2011 wedi atgyfeiriad gan Heddlu Gwent. Am ragor o wybodaeth ar agor yr ymchwiliad, cliciwch yma.
  3. Cynrychiolir y Swyddfa Twyll Difrifol gan Alexandra Healy QC a Timothy Godfrey.
  4. Mae’r union gyhuddiadau fel a ganlyn:

Cyhuddiad

Troseddau

Unigolion

1

Cynllwyn i gyflawni twyll trwy ymhoniad anwir, yn groes i adran 1(1) y Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977.

Mark Aizlewood, Christopher Paul Martin, Keith Anthony Williams a Paul Anthony Sugrue

2

Cynllwyn i gyflawni twyll trwy ymhoniad anwir, yn Groes i adran 1(1) y Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977

Mark Aizlewood, Christopher Paul Martin, Keith Anthony Williams and Paul Anthony Sugrue, Steven Paul Gooding a Jack William Harper

3

Twyll, yn groes i adran 1 y Ddeddf Twyll 2006.

 

Jack William Harper

4

Defnyddio offeryn ffug, yn groes i adran 3 y Ddeddf Twyll Ffugio 1981.

 

Jack William Harper