Cyhuddo chwech yn dilyn ymchwiliad i gynllun prentisiaeth
4 Mai, 2016 | Eitemau newyddion
Ymddangosodd chwe unigolyn gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw, wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad ag ymchwiliad gan y Swyddfa Twyll Difrifol i weithgareddau Luis Michael Training Ltd, cwmni yn ymhonni i fod yn darparu pobl ifanc â chynlluniau prentisiaeth seiliedig ar bêl-droed.
Mark Aizlewood [56, o Aberdâr, Cymru], Christopher Paul Martin [51, o Newbury, Lloegr], Keith Anthony Williams [43, o Ynys Môn, Cymru], Paul Anthony Sugrue [55, o Gaerdydd, Cymru], Steven Paul Gooding [52, o Bridgwater, Lloegr] a Jack William Harper [29, o Southport, Lloegr] gyda throseddau yn amrywio o gynllwynio i gyflawni twyll trwy ymhoniad anwir, i dwyll a defnyddio offeryn ffug.
Honnir bod Luis Michael Training Ltd wedi hawlio nifer o daliadau gan sawl coleg Addysg Bellach ar gyfer gwasanaethau hyfforddiant ac addysg na wnaethant eu darparu, mewn gwirionedd.
Mark Aizlewood, Paul Anthony Sugrue, Christopher Paul Martin a Keith Anthony Williams yn gyfarwyddwyr a rhanddeiliaid yn Luis Michael Training Ltd. Dywedir bod Steven Paul Gooding a Jack William Harper wedi eu cyflogi i recriwtio dysgwyr ar gyfer y cwmni hwn.
Honnir i Jack William Harper gyflawni ymgais ar wahân ond cysylltiedig i dwyllo coleg Addysg Bellach, dan yr enw FootballQualifications.com.
Digwyddodd yr ymddygiad honedig rhwng 2009 a 2011.
Bydd y chwe diffynnydd yn ymddangos nesaf yn Southwark Crown Court ar 1/06/2016.
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae Luis Michael Training Ltd a FootballQualifications.com wedi rhoi’r gorau i weithredu.
- Derbyniwyd yr achos i’w ymchwilio yn Medi 2011 wedi atgyfeiriad gan Heddlu Gwent. Am ragor o wybodaeth ar agor yr ymchwiliad, cliciwch yma.
- Cynrychiolir y Swyddfa Twyll Difrifol gan Alexandra Healy QC a Timothy Godfrey.
- Mae’r union gyhuddiadau fel a ganlyn:
Cyhuddiad |
Troseddau |
Unigolion |
1 |
Cynllwyn i gyflawni twyll trwy ymhoniad anwir, yn groes i adran 1(1) y Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977. |
Mark Aizlewood, Christopher Paul Martin, Keith Anthony Williams a Paul Anthony Sugrue |
2 |
Cynllwyn i gyflawni twyll trwy ymhoniad anwir, yn Groes i adran 1(1) y Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 |
Mark Aizlewood, Christopher Paul Martin, Keith Anthony Williams and Paul Anthony Sugrue, Steven Paul Gooding a Jack William Harper |
3 |
Twyll, yn groes i adran 1 y Ddeddf Twyll 2006.
|
Jack William Harper |
4 |
Defnyddio offeryn ffug, yn groes i adran 3 y Ddeddf Twyll Ffugio 1981.
|
Jack William Harper |