Unigolyn yn cael ei gyhuddo o ddinistrio tystiolaeth
9 Tachwedd, 2015 | Eitemau newyddion
Ymddangosodd unigolyn a gyhuddwyd yng nghyswllt ymchwiliad i lwgrwobrwyo a llygredd gan yr SFO, sy’n parhau, yn Llys y Goron Southwark heddiw.
Cyhuddwyd Richard Kingston, 53, o Dde Cymru, o ddwy drosedd o guddio, dinistrio neu waredu dogfennau mewn modd arall, gan wybod neu amau eu bod yn berthnasol i ymchwiliad gan yr SFO, yn groes i Adran 2(16) Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987.
Trefnwyd y gwrandawiad nesaf, gwrandawiad rhoi Ple a Rheoli Achos, ar gyfer 1 Chwefror 2016 yn Llys y Goron Southwark. Trefnwyd i achos llys gychwyn ar 12 Rhagfyr 2016.
Nodyn i olygyddion:
- Ymddangosodd Mr Kingston ger bron llys Ynadon Westminster ar 26 Hydref 2015. Nid yw’r cyhuddiadau hyn yn ymwneud â’r ymchwiliad i Sweett Group plc yr SFO sy’n parhau. Mae’r cyhuddiadau yn deillio o ymchwiliad i lygredd honedig yn ymwneud â phrosiectau adeiladu yn Irac. Gan fod yr achos hwnnw yn awr ar y gweill, mae’r rheol atebolrwydd caeth yn Neddf Dirmyg Llys 1981 yn berthnasol yn awr.