Dyfarniad yr Uchel Lys yn achos R v Evans ac eraill
14 Tachwedd, 2014 | Eitemau newyddion
Heddiw mae’r uchel Lys wedi gwrthod cais gan y Swyddfa Twyll Difrifol am Fil Ditiad Gwirfoddol yn achos R v Evans, Whiteley, Bodman, Davies, Walters a Humphreys. Rydym yn derbyn dyfarniad y llys, sydd nawr yn dod â’r erlyniad i ben.
Nodiadau i olygyddion:
- Bu i’r SFO ddwyn cyhuddiadau ym mis Ionawr 2013 yn erbyn chwech o bobl, yn cynnwys dau gyn Gyfarwyddwr Celtic Energy Ltd. Honnodd yr SFO eu bod wedi cynllwynio i dwyllo tri awdurdod lleol yng Nghymru â’r Awdurdod Glo.
- Bu i’r Barnwr Hickinbottom wrthod yr achos ym mis Chwefror 2014 yn dilyn ceisiadau llwyddiannus gan y diffynyddion, oedd yn dadlau nad oes gan yr Awdurdodau Cyhoeddus na’r Awdurdod Glo ddyletswyddau, hawliau na rhwymedigaethau sy’n debygol o gael eu niweidio gan y cynllun a weithredwyd gan y diffynyddion.
- Nid oes darpariaeth yn y gyfraith sy’n cynnwys hawl apelio i’r Goron. Yr unig weithdrefn sydd ar gael i’r Goron yw ‘bil ditiad gwirfoddol’. Mae hon yn weithdrefn eithriadol y gall y Goron ei ddefnyddio i wneud cais i’r Uchel Lys am fil ditiad gwirfoddol. Os bydd yr Uchel Lys yn caniatáu’r cais, bydd y Goron yn gallu ailgychwyn yr achos troseddol yn erbyn y partïon, er gwaethaf dyfarniad blaenorol Llys y Goron.
- Roedd yr SFO yn ystyried ei bod yn briodol ceisio bil ditiad gwirfoddol yn yr achos hwn.