We aim to make this site as accessible as possible and therefore have provided the settings below to use if you are finding it difficult to view this website. See the SFO Accessibility Statement for more information.

Where it is appropriate to provide a Welsh translation, you can switch to Cymraeg. See the Welsh Language Commissioner website for more information.

Use the settings button in the bottom right corner of the page to access these settings again.

We would like to use Analytics Cookies on our website. 

Turn these on below if you are happy with us collecting information on how our site is used, in order for us to improve the overall experience of our website. 

All other cookies are necessary and therefore by continuing to browse this website, you are agreeing to the usage of these cookies.

 See the SFO Privacy Policy for more information. 

Analytics Cookies

Erlyn twyll pyllau glo De Cymru: Chwech yn y llys

30 Ionawr, 2013 | Eitemau newyddion

Heddiw, mynychodd chwe pherson Lys Ynadon Westminster ar gyfer eu gwrandawiad cyntaf, wedi eu cyhuddo o gynllwynio i dwyllo mewn perthynas â gwerthu pedwar safle glo brig yn Ne Cymru.

Cyhuddwyd pump yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd ar 24 Ionawr. (Cyhoeddwyd hyn gan yr SFO ar y dyddiad hwnnw). Y pum person yw:

  • Eric Evans (67 oed) o’r Fenni, Sir Fynwy
  • Alan Whiteley (48 oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganoln
  • Frances Bodman (30 oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganol
  • Richard Walters (32 oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganol
  • Leighton Humphreys (38 oed) o Gaerdydd, De Morgannwg

 
Gofynnwyd i chweched person ymddangos yn y llys heddiw er mwyn ei gyhuddo. Sef:

  • Stephen Davies QC (52 oed) o Fryste

Bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron Southwark dros dro ar 5 Ebrill 2013.

Honnir bod y diffynyddion wedi cynllwynio i dwyllo Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Powys a’r Awdurdod Glo drwy effeithio’n fwriadol ar eu gallu i orfodi rhwymedigaethau yn effeithiol i adfer safleoedd glo brig fel cefn gwlad agored a/neu ar gyfer ddefnydd amaethyddol. Gweithredwyd y safleoedd gan Celtic Energy Limited o Gaerffili.

Nodiadau i olygyddion:

  1. 1. Cyhoeddwyd datganiad i’r wasg blaenorol mewn perthynas â’r achos ar 24 Ionawr 2013.