We aim to make this site as accessible as possible and therefore have provided the settings below to use if you are finding it difficult to view this website. See the SFO Accessibility Statement for more information.

Where it is appropriate to provide a Welsh translation, you can switch to Cymraeg. See the Welsh Language Commissioner website for more information.

Use the settings button in the bottom right corner of the page to access these settings again.

We would like to use Analytics Cookies on our website. 

Turn these on below if you are happy with us collecting information on how our site is used, in order for us to improve the overall experience of our website. 

All other cookies are necessary and therefore by continuing to browse this website, you are agreeing to the usage of these cookies.

 See the SFO Privacy Policy for more information. 

Analytics Cookies

Cyhuddo pum person yn achos twyll safleoedd cloddio yn Ne Cymru

24 Ionawr, 2013 | Eitemau newyddion

Heddiw, cyhuddwyd pum person o gynllwynio i dwyllo mewn perthynas â gwerthu pedwar safle glo brig yn Ne Cymru. Y diffynyddion yw:

  • Eric Evans (67 oed) o’r Fenni, Sir Fynwy
  • Alan Whiteley (oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganol
  • Frances Bodman (30 oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganol
  • Richard Walters (32 oed) o Ben-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganol
  • Leighton Humphreys (38 oed) o Gaerdydd, De Morgannwg

Bydd y diffynyddion yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar ddydd Mercher 30 Ionawr.

Bu iddynt gael eu cyhuddo yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd o gynllwynio i dwyllo Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Powys a’r Awdurdod Glo drwy effeithio’n fwriadol ar eu gallu i orfodi rhwymedigaethau yn effeithiol i adfer safleoedd glo brig fel cefn gwlad agored a/neu ar gyfer ddefnydd amaethyddol. Y safleoedd hyn yw Pwll Dwyreiniol, Nant Helen (Nant Gyrlais), Selar a Margam (Parc Slip a Chynffig).

Honnir bod y cynllwyn yn cynnwys sefydlu cwmnïau ar Ynysoedd British Virgin ym mherchnogaeth llesiannol terfynol Eric Evans a David Alan Whiteley gyda’r bwriad i deitl rhydd-ddaliad y pedwar safle gael eu trosglwyddo o Celtic Energy i’r cwmnïau BVI, gan ryddhau darpariaethau a wnaethpwyd yng nghyfrifon blynyddol Celtic Energy mewn perthynas ag atebolrwydd ariannol i adfer y safleoedd a bod hyn wedi ei wneud er budd i’r cynllwynwyr.
 
Nodiadau i olygyddion:

  1. Derbyniwyd yr achos ar gyfer ymchwiliad gan y Swyddfa Twyll Difrifol ym mis Ionawr 2011.
  2. Oherwydd bod yr achos yn mynd rhagddo, mae rheol atebolrwydd llym Deddf Dirmyg Llys 1982 nawr yn gymwys.
  3. Ar yr adeg berthnasol roedd Richard Walters a Leighton Humphreys yn Gyfarwyddwyr Celtic Energy Limited yng Nghaerffili ac roedd y tri diffynnydd arall yn gyfreithwyr.