Ein hymrwymiad i chi
Fel tyst, rydyn ni wedi ymrwymo i'ch cefnogi.
Byddwn yn sicrhau:
- eich bod yn cael eich trin yn deg a gyda pharch, yn unol â'ch anghenion, heb ystyried hil, crefydd, cefndir, rhyw, oed, rhywioldeb neu unrhyw anabledd
- bod eich anghenion yn cael eu hystyried bob amser
- eich bod yn cael cefnogaeth ychwanegol os byddwch chi'n teimlo'n ofnus
- bod eich presenoldeb yn y llys yn gyfleus i'ch amgylchiadau
- eich bod yn cael rhybudd ymlaen llaw am ddyddiadau treialon
- eich bod yn derbyn cefnogaeth ymarferol ac emosiynol yn y llys, cyn ac yn ystod y treial, gan y Gwasanaeth Tystion ac asiantaethau cefnogi eraill
- ein bod yn cymryd camau i'ch cadw'n ddiogel yn y llys
- ein bod yn eich hysbysu o ganlyniad yr achos
I gael mwy o wybodaeth am fod yn dyst, gallwch ymweld â www.cjsonline.gov.uk/witness



