Dioddefwr yw person, sefydliad neu Lywodraeth sydd wedi cael colled ariannol uniongyrchol o ganlyniad i'r twyll neu'r llygredd mwyaf difrifol a chymhleth.
Os ydych chi'n ddioddefwr twyll neu lygredd mwyaf difrifol neu gymhleth, hoffem eich helpu. Ein nod yw sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr a'ch cefnogi cymaint ag sy'n bosibl drwy gydol y broses.
Edrychwch ar y tudalennau hyn i gael gwybodaeth ddefnyddiol ac atebion i rai o'ch cwestiynau mwyaf cyson am dwyll a llygredd.
Os ydych chi'n hysbysu am dwyll neu lygredd difrifol a chymhleth am y tro cyntaf neu wedi eich enwi fel dioddefwr yn un o'n hymchwiliadau presennol neu eich bod yn gofyn am wybodaeth ar sut i osgoi bod yn ddioddefwr twyll, byddwn yn ceisio eich helpu:
- Ble alla i gael help?
- Alla i hysbysu twyll neu lygredd i SFO?
- Beth sy'n digwydd ar ôl i mi hysbysu twyll neu lygredd i SFO?'
- Ydych chi'n gwybod am unrhyw ddioddefwyr eraill?
- Beth alla i ei wneud i ddiogelu fy hun ac eraill rhag twyllwyr?
- Ein hymrwymiad i chi
I gael gwybodaeth i sefydliadau sy'n ddioddefwyr twyll a llygredd cymhleth, ewch i'n hadran Gorfforaethol



