Dioddefwr yw person, sefydliad neu Lywodraeth sydd wedi cael colled ariannol uniongyrchol o ganlyniad i'r twyll neu'r llygredd mwyaf difrifol a chymhleth.
'Mae'n bosibl y bydd eich cwmni mewn mwy o risg o drosedd ariannol wrth i straen economaidd ar lefel unigolyn a chorfforaethol gynyddu'r cymhelliannau i gyflawni twyll, camddefnyddio'r farchnad a throseddau ariannol eraill.' (FSA Financial Risk Outlook 2009)
Gall twyll neu lygredd difrifol a chymhleth gael effaith sylweddol ar gorfforaethau neu fusnesau sydd wedi'u twyllo'n fwriadol gan unigolion, grwpiau cyfundrefnol o droseddwyr, cwmnïau twyllodrus neu hyd yn oed aelodau unigol o'r staff. Er ei bod yn bosibl y bydd corfforaethau mwy'n gallu ailadeiladu ar ôl twyll difrifol, i gwmniau llai, gall yr effaith fod yn rhy fawr iddo adfer ohono.
Mae rhai rheoliadau sylfaenol y gallwch eu cynnwys pa faint bynnag yw eich cwmni sef sicrhau eich bod yn atal twyll o fewn eich sefydliad: 'Sut galla i leihau'r risgiau a'r effaith ar fy nghwmni?'
Os ydy eich cwmni wedi dioddef gan dwyll, yna rydyn ni'n awyddus i helpu. Fodd bynnag, sefydliad bach a hynod arbenigol ydyn ni sy'n ymgymryd â'r achosion mwyaf difrifol a phroffil uchel. Cofiwch ddarllen yr adran hon yn ofalus: 'Ydy hyn yn cyfateb i feini prawf SFO?'
Os na fydd yn briodol i ni ymchwilio i'ch achos, mae nifer o asiantaethau a gwasanaethau cefnogi eraill a all efallai eich cynorthwyo. Gweler: 'Beth ddylwn i ei wneud os bydda i'n amau bod fy nghwmni wedi'i dwyllo?'
Mae'r tudalennau canlynol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar ffurf cwestiynau ac atebion cyffredinol:



