Mae twyll yn newid yn barhaus wrth i dechnoleg ddatblygu a throseddwyr gael hyd i ddulliau newydd o dwyllo dioddefwyr. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth sy'n bosibl i atal twyll cyn iddo ddigwydd, i arbed mwy o bobl rhag y golled ariannol ddinistriol a'r effaith emosiynol o ddioddef gan dwyll difrifol.
Mae twyll yn costio biliynau o bunnoedd bob blwyddyn i economi'r DU. Rydyn ni'n gweithio i leihau'r effaith hwn. Yn 2008, roedd y llywodraeth yn dyrannu £29m i'w wario ar osod argymhellion a wnaed mewn adolygiad twyll traws-lywodraethol a gynhaliwyd gan y Twrnai Cyffredinol.



