SFO - Serious Fraud Office
  1. Cartref
  2. Ein gwaith

Ein gwaith

Ein dymuniad ydy rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd ein hachosion. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi'n ddioddefwr neu'n dyst neu wedi rhoi gwybodaeth i ni ar achos arbennig. Er efallai na allwn i ddweud llawer o'r manylion wrthych, neu gysylltu â chi'n unigol, gobeithio y byddwch chi'n cysylltu yma i gael ein diweddariadau misol ar eich achos.

Gall ein hachosion gymryd nifer o flynyddoedd o'u dechrau i'w diwedd oherwydd cymhlethdodau'r ymchwiliadau sy'n rhaid eu cynnal - felly peidiwch â digalonni os na fydd yn ymddangos bod unrhyw gynnydd. Gallaf eich sicrhau ein bod yn gweithio'n galed iawn i lunio achos llwyddiannus ac na fyddwn bob amser yn gallu rhannu ein llwyddiannau diweddaraf gyda chi ar unwaith.

Rhowch wybod am dwyll

+44 (0)20 7239 7388