SFO - Serious Fraud Office
  1. Cartref
  2. Twyll

Twyll

Mae Twyll yn fath o drosedd a ddiffinnir fel:

'camddefnyddio safle, neu ddatganiad ffug, neu ragfarnu hawliau rhywun i gael elw personol'.

O'i roi'n syml, mae twyll yn weithred o ddichell wedi'i bwriadu ar gyfer elw personol neu i achosi colled i rywun arall. Gall y drosedd gyffredinol droseddol o dwyll gynnwys dichell lle mae rhywun yn fwriadol yn gwneud datganiad ffug neu'n methu â datgelu gwybodaeth neu'n camddefnyddio safle.

Mae twyllwyr bob amser yn ceisio darganfod dulliau newydd i'ch twyllo o'ch arian. Gallwch gael eich hun yn cael eich targedu drwy e-byst,  galwadau ffôn, llythyron, safleoedd rhwydweithio cymdeithasol neu hyd yn oed ystafelloedd sgwrsio.

Bydd yr heddlu ac weithiau asiantaethau eraill yn delio â'r mwyafrif o achosion o dwyll. Ein rôl ni yw brwydro'r achosion mwyaf difrifol neu gymhleth o dwyll a llygredd yn unig. Mae hyn yn golygu bod gennym ddiddordeb arbennig mewn mynd i'r afael â thwyll mawr a allai gynnwys:

  • Colli dros filiwn o bunnoedd
  • Bod yn sensitif yn wleidyddol
  • Cael effaith sylweddol ar ein heconomi
  • Neu fod â lefel uchel o gymhlethdod.

Y prif fathau o dwyll y byddwn ni'n eu hymchwilio yw:

  • Twyll buddsoddi
  • Llwgrwobrwyaeth a llygredd
  • Twyll corfforaethol
  • Twyll y Sector Cyhoeddus

I ddarganfod mwy am y mathau hyn o dwyll ac i weld enghraifft o astudiaeth achos o bob un, edrychwch ar yr adran hon ymhellach.

Rhowch wybod am dwyll

+44 (0)20 7239 7388

Switchboard

+44 (0)20 7239 7272