Beth yw llygredd?
Oherwydd ei natur, gall llygredd fod yn anodd i'w ganfod gan ei fod fel arfer yn cynnwys dau berson neu fwy yn creu cytundeb cyfrinachol. Gall y cytundeb addo talu cymhelliad ariannol i swyddog cyhoeddus i sicrhau ffafr o ryw ddisgrifiad.
Mewn llygredd tramor, gall hyn amlygu ei hun gan gwmni o'r DU yn talu llwgrwobr i swyddog cyhoeddus tramor er mwyn ennill cytundeb. Gellir gwneud hyn drwy 3ydd parti a elwir fel arfer yn asiant neu gynghorydd sydd wedyn yn trosglwyddo'r llwgrwobr ymlaen i'r swyddog cyhoeddus neu'n uniongyrchol gan y cwmni yn y DU i swyddog cyhoeddus.
Defnyddir dulliau dyfeisgar gan y rhai sydd ynghlwm i wneud y taliadau gan gynnwys symud yr arian drwy nifer o gwmnïau alltraeth (nid oes gan hyn, ar y wyneb, unrhyw beth i'w wneud gyda'r derbynnydd y bwriadwyd hwn ar ei gyfer) a gofrestrwyd mewn awdurdodau amrywiol.
Mae natur gyfrinachol y cytundeb yn golygu ei bod yn anodd i unrhyw un heblaw'r rhai oedd ynghlwm wybod beth sy'n digwydd. O ganlyniad i'r gwaith mae SFO wedi'i wneud, rydyn ni wedi canfod nifer o arferion amheus o fewn sectorau amrywiol. Gelwir y rhain yn ddangosyddion llygredd.
Mae'n bosibl yn eich bywyd o ddydd i ddydd neu yn eich amgylchedd gwaith, eich bod wedi dod ar draws arferion amheus neu byddwch yn dod ar eu traws; pethau, nad sydd o fewn eich gwybodaeth a'ch profiad, fel petaen nhw'n gwneud synnwyr. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod llygredd yn digwydd ond gallai fod yn rhywbeth yr hoffech ei ddwyn i sylw eich rheolwr neu'n well byth, hysbysu SFO ar ein llinell frys 020 7239 7388 neu ar lein drwy ddefnyddio ein ffurflen 'Hysbysu twyll.



