SFO - Serious Fraud Office

Cydweithio rhyngwladol

Mae ein tîm Cymorth Rhyngwladol yn delio â cheisiadau am gymorth o lysoedd ac erlynwyr tramor. Rydyn ni wedi cynorthwyo nifer o awdurdodau tramor am nifer o flynyddoedd.

Mewn achosion o dwyll difrifol neu gymhleth, mae'n bosibl y bydd erlynwyr ac ymchwilwyr tramor yn gofyn am ein cymorth i gael gwybodaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae ein pwerau'n ein caniatáu i gael dogfennau, i gyfweld tystion (ond nid o dan lw) ac i gadw asedau.

Pa bwerau sydd gennym i helpu?

Mae gennym bwerau gorfodol yn unol ag adran Deddf Cyfiawnder Troseddol 1987, sy'n ein galluogi i:

  • ddisgwyl i unrhyw berson (neu gwmni/fanc) roi unrhyw ddogfennau perthnasol i ni gan gynnwys dogfennau cyfrinachol. Nodwch, fodd bynnag, na allwn ni ddefnyddio Adran 2 i gael dogfennau sydd â braint broffesiynol gyfreithiol. Gellir gofyn i gyfreithiwr, fodd bynnag, am enw a chyfeiriad ei gleient.
  • ddisgwyl i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiynau perthnasol gan gynnwys cwestiynau am faterion cyfrinachol. Mae'r un sefyllfa am fraint broffesiynol gyfreithiol yn gymwys.

Fel arfer, byddwn ni'n defnyddio'r pwerau hyn drwy roi rhybudd i'r person dan sylw. Mae'r rhybudd yn nodi dyddiad ac mae'n rhaid cwblhau'r cam cyn y dyddiad hwnnw. Fodd bynnag, os bydd angen, gall rhybudd Adran 2 fynnu gweithredu ar unwaith.

Os na fydd person yn cydymffurfio, os na fydd yn bosibl rhoi rhybudd, neu fod gennym resymau digonol i gredu y byddai rhoi rhybudd yn rhagfarnu'r ymchwiliad yn ddifrifol, gallwn wneud cais i'r llys am warant i archwilio ei dy/thŷ, neu adeiladau'r busnes a chymryd y dogfennau. Fodd bynnag, cyn rhoi gwarant chwilio, rhaid i'r ynad fod yn fodlon ein bod wedi ystyried pob dull arall o gael y deunydd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'ch cais amlinellu'r ffeithiau yn y fath fodd fel mai'r casgliad yw mai gwarant chwilio ydy'r unig ffordd i gael y dogfennau. Ni all gwarant chwilio awdurdodi cymryd y dogfennau sydd o dan fraint gyfreithiol.

Pwy all ofyn am gymorth?

Mae'r Deyrnas Unedig yn derbyn ceisiadau am gymorth gan lysoedd neu dribiwnlysoedd troseddol tramor, erlynwyr tramor neu unrhyw awdurdod tramor arall sy'n gwneud ceisiadau am gymorth mewn achosion troseddol.

Pwy na allwn ni eu helpu?

Os byddwch chi'n byw dramor neu wedi cael eich twyllo gan bobl dramor, rhaid i chi gysylltu â'r asiantaeth gorfodi'r gyfraith lle digwyddodd y twyll, i gael help.

Cael tystiolaeth o'r DU

I gael mwy o wybodaeth, gweler ein Canllaw i gael tystiolaeth o'r DU

Rhowch wybod am dwyll

+44 (0)20 7239 7388