Ni yw'r Swyddfa Twyll Difrifol (SFO); adran annibynnol o'r Llywodraeth sy'n ymchwilio ac yn erlyn twyll a llygredd difrifol neu gymhleth. Rydyn ni'n rhan o system cyfiawnder troseddol y DU gydag awdurdod yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ond nid yn yr Alban, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.
Mae ein cyfrifyddion fforensig a'n hymchwilwyr proffesiynol a chyfreithwyr yn ymchwilio ac yn erlyn yr achosion mwyaf difrifol neu gymhleth o dwyll a llygredd.
Rydyn ni'n defnyddio ein pwerau deddfwriaethol arbennig i gael y dystiolaeth angenrheidiol i greu achosion llwyddiannus a dwyn troseddwyr i gyfiawnder ac felly helpu i gynnal hyder yn sefydliadau busnes ac ariannol y DU.
Drwy ddefnyddio'r gwersi rydyn ni'n eu dysgu o'r achosion y byddwn yn eu hymchwilio, rydyn ni'n ceisio atal twyll troseddol bwriadol, helaeth a allai fygwth y cyhoedd ymhellach.
Penodir Cyfarwyddwr SFO (Richard Alderman) gan y Twrnai Cyffredinol (Barwnes yr Alban) ac mae'n atebol iddi. Hi sy'n gyfrifol i'r Senedd am SFO ac Adrannau eraill Swyddogion y Gyfraith:
- Gwasanaeth Erlyn y Goron,
- Swyddfa Cyfreithiwr y Trysorlys
- Adran y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon
- Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM.
Ym mis Gorffennaf 2009, cyhoeddodd y Twrnai Cyffredinol brotocol sy'n amlinellu'n glir berthynas y Twrnai Cyffredinol gyda'r awdurdodau erlyn y mae hi'n eu harolygu. Cyhoeddwyd hwn ar y cyd gyda chyfarwyddwyr y Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), y Swyddfa Twyll Difrifol (SFO), a Swyddfa Erlyn Swyddfa Cyllid a Thollau (RCPO).
Rydyn ni'n rhan o rwydwaith o asiantaethau'r Llywodraeth a sefydliadau eraill sy'n gweithio i frwydro yn erbyn twyll a llygredd. I gael mwy o wybodaeth am sut rydyn ni'n rhan o'r rhwydwaith gwrth-dwyll a llygredd, gallwch ymweld â Pherthnasoedd allanol a Yr hyn rydyn ni'n ei wneud a phwy rydyn ni'n gweithio gyda nhw.



